BLWYDDYN 2017 – 2020
CLEIENT Castle Green Homes Ltd.
Mae Bron y Castell yn ddatblygiad preswyl preifat o 158 o dai newydd yn Abergele, gogledd Cymru. Mae’r tai newydd hyn wedi’u gosod ymysg amgylchedd o dirweddau hardd, ger tref farchnad Abergele.
Drwy ddefnyddio meddalwedd o’r radd flaenaf ac arloesedd aelodau ein tîm, llwyddodd Cadarn i liniaru’r angen am orsaf bwmpio carthffos fudr drwy ail-raddio’r safle a chaniatáu rhagor o le ar gyfer dau eiddo ychwanegol, cydbwyso symiau torri a llenwi’r safle er mwyn lleihau costau mewnforio neu allforio deunydd a gwella capasiti dŵr arwyneb y pyllau arafu. Yn ogystal â hynny, dilëwyd yr angen am strwythurau arafu dŵr dan yr arwyneb costus a oedd yn ddibynnol ar waith cynnal a chadw drwy ddefnydd arloesol systemau SuDS fel pyllau a phantiau.
Cafodd Cadarn ei benodi i ymgymryd â’r gwaith o ddylunio’r ffordd, draeniau a gwaith allanol ar gyfer y datblygiad arfaethedig, yn caffael y cytundebau adrannol angenrheidiol o fewn yr Awdurdod Priffyrdd ac ymgymerwr carthffosiaeth. Arweiniodd cyfarfodydd tîm dylunio cychwynnol gyda’r cleient at drafod syniadau er mwyn lliniaru’r angen ar gyfer seilwaith trwm wrth ategu amgylchedd gwyrdd hardd y safle.
Arweiniodd y dyluniad at arbedion costau sylweddol ar draws holl agweddau’r safle o ganlyniad i’r dyluniad peirianneg arloesol, nifer cynyddol o eiddo preswyl fel rhan o’r datblygiad, ac oherwydd y mathau o strwythurau SuDS a ddyluniwyd ar y safle i alluogi’r rhaglen adeiladu i gael ei chyflymu a’i gorffen yn gynt. Dyma enghraifft wych o sut mae Peirianneg dda, a draenio yn benodol, yn gwneud i ddatblygiad o faint sylweddol gyfuno’n berffaith â’i amgylchedd naturiol.
Os gallwn ni cynorthwyo eich prosiect, cysylltwch â ni ag y byddem yn fwy na pharod i helpu.