BLWYDDYN 2020 – 2021
CLEIENT Perchennog yr Eiddo
Mae’n un o ofynion TAN 15 yng Nghymru bod Asesiadau Canlyniad Llifogydd yn cael eu cynhyrchu ar gyfer unrhyw ddatblygiad o fewn parthau risg llifogydd hysbys. Mae’r datblygiad penodol hwn yn cynnwys ail-leoli gorsaf betrol presennol, sydd ar hyn o bryd wedi’i leoli dros brif Afon Soch. Darparodd Cadarn arbenigedd Peirianneg wrth fodelu risg llifogydd posibl yn hydrolig, ac wrth bennu addasrwydd y safle ar gyfer y datblygiad arfaethedig.
Gan ddefnyddio technoleg o’r radd flaenaf, cyfuniad o feddalwedd ac arloesedd aelodau talentog y tîm, cynhyrchwyd model delwedd o Asesiad Canlyniad Llifogydd er mwyn arddangos effaith llifogydd ar dir wedi’i ddatblygu. Cadarnhawyd graddau’r llifogydd, a oedd yn wahanol i Fap Cyngor risg Llifogydd Llywodraeth Cymru a derbynioldeb canlyniadau llifogydd yn seiliedig ar ddosbarth risg y defnydd.
Gan ei fod wedi’i lleoli o fewn ardal parth llifogydd C2, roedd rhan o’r briff dylunio gwreiddiol yn cynnwys dangos a fyddai modd rheoli canlyniadau llifogydd dros oes y datblygiad arfaethedig. Roedd hyn yn cynnwys archwiliadau ac arolygon sylweddol ar y safle, a chaffael mapiau LIDAR a thopograffeg priodol er mwyn asesu effaith derbynyddion llifogydd posibl.
Drwy ddefnyddio’r technegau a’r dechnoleg ddiweddaraf, mae Cadarn wedi arddangos cydymffurfiaeth â gofynion Tan 15, wedi pennu lefel llifogydd ar y safle, neu gyferbyn â’r safle, ac wedi lliniaru’r risg o lifogydd i’r datblygiad arfaethedig a darpar ddefnyddwyr yn y dyfodol. Mae’r dyluniadau wedi’u derbyn, mae mapio’r llifogydd wedi newid, ac mae’r datblygiad wedi’i gymeradwyo.
Os gallwn ni cynorthwyo eich prosiect, cysylltwch â ni ag y byddem yn fwy na pharod i helpu.