Mae Cadarn wedi darparu nifer o wasanaethau cymorth i Orthios ar ei brif safle yng Nghaergybi, Ynys Môn, a’i asedau o fewn Porthladd Caergybi.
BLWYDDYN 2019 – 2020
CLEIENT Orthios
Gan ddefnyddio amrywiaeth o arbenigedd a phrofiad y tîm, rydym wedi cynnig gwasanaethau fel Asesiadau Cyflwr, Dylunio Strwythurol, Caffael a Phrif Ddylunydd, ac yn parhau i’w cynnig hyd heddiw.
Yn dilyn asesiad cyflwr a nodi gwaith gofynnol, cynorthwyodd Cadarn gyda’r gwaith adrodd dichonoldeb, blaenoriaethu gwaith yn seiliedig ar gritigoldeb a llunio adroddiadau rhagweld cyllidebau ar gyfer mynd i’r afael â’r gwaith ar bob ased. Caniataodd hyn i raglen o ddatrysiadau gael ei llunio ac i’r holl risgiau perthnasol o fewn pob strwythur ased gael eu pwysleisio.
Mae arolygon cyflwr asedau wedi chwarae rhan sylweddol wrth gefnogi’r cleient, gan gynnwys man glanfa yn y Porthladd, y stac eiconig sy’n gysylltiedig â’r hen safle Alwminiwm a thwnnel gwasanaeth 2.4km o hyd. Gall yr hen strwythurau concrit cyfnerthu hyn, sy’n 50 mlwydd oed, ac wedi’u nodi fel seilwaith sylweddol, chwarae rhan hanfodol yng nghynigion datblygiadau’r Cleient yn y dyfodol.
Ers hynny, mae’r broses datrys asedau wedi’i rheoli gan ddefnyddio profiad ein Rheolwyr Prosiect achrededig NEC 4, a chyfres o gontractau NEC 4. Mae Cadarn wedi caffael, rheoli a goruchwylio’r broses ddatrys yn llwyddiannus wrth drosglwyddo’r asedau’n ôl i’r cleient.
Os gallwn ni cynorthwyo eich prosiect, cysylltwch â ni ag y byddem yn fwy na pharod i helpu.