BLWYDDYN 2021
CLEIENT Cyngor Sir Ynys Môn
Darparodd Cadarn Arolygiad Cyffredinol llawn yn unol â CS450 – Arolygiad Strwythurau Priffyrdd, gan sicrhau bod strwythurau Priffyrdd Ynys Môn yn ddiogel ac yn addas at y diben drwy gynnig data angenrheidiol er mwyn cefnogi rheolaeth cynnal a chadw effeithiol a chynllunio i’r dyfodol.
Yn dilyn yr arolygon, roedd y peirianwyr a’r arolygwyr yn medru cynnig gwybodaeth sylweddol i gynorthwyo’r cleient gyda rheolaeth cynnal a chadw effeithiol a chynllunio unrhyw ddatrysiadau a nodwyd yn strwythurau’r Priffyrdd.
Mae arolygon yn chwarae rôl hanfodol wrth reoli strwythurau Priffyrdd yn effeithiol, gan sicrhau bod asedau Priffyrdd yn ddiogel i’w defnyddio ac yn addas at y diben. Drwy gysylltu â’r cleient, roedd arolygwyr strwythurol profiadol Cadarn yn medru arolygu cyfanswm o 104 o strwythurau Priffyrdd ledled Ynys Môn.
Casglodd Cadarn Asesiadau Risg a Datganiadau Dull ar gyfer yr holl leoliadau strwythurol, ac ymgymerwyd â’r arolygiad ar droed, drwy lwyfan ac o long arnofiol. Cafodd yr adroddiadau eu cwblhau a’u cyflwyno i’r cleient er mwyn diweddaru’r gofrestr asedau a pharatoi ar gyfer mesurau atal yn y dyfodol ar gyfer pob un o’r strwythurau a arolygwyd.
Os gallwn ni cynorthwyo eich prosiect, cysylltwch â ni ag y byddem yn fwy na pharod i helpu.