BLWYDDYN 2020
CLEIENT Perchennog yr Eiddo
Cafodd Cadarn ei gyflogi gan berchennog yr eiddo, i ddarparu gwasanaethau Peirianneg proffesiynol i gefnogi gwaith atgyweirio ac estyniad Y Fron, eiddo hanesyddol amlwg yn Llangefni, Ynys Môn. Roedd y comisiwn yn ceisio cynnig dyluniad strwythurol sympathetig ar gyfer yr estyniad arfaethedig a garej aml-fae arfaethedig.
Darparwyd dyluniad strwythurol ar gyfer estyniad yr orendy, a oedd yn cynnwys ffrâm ddur, muriau gwaith maen a darnau pren, yn ogystal â cholofnau a thrawstiau dur strwythurol er mwyn cael gwared ar fur gefn y llawr gwaelod yn llwyr er mwyn cael mynediad at yr estyniad. Roedd addasiadau mewnol yn gwarantu’r angen i ddylunio darn pren a dylunio darnau strwythurol gan ddefnyddio deunyddiau traddodiadol i ategu natur hanesyddol yr eiddo. Cynlluniwyd darluniau manwl i gynorthwyo’r contractwr a’i wneuthurwr dewisol yn ogystal â phecynnau cyfrifo dyluniad a thystysgrifau dylunio ar gyfer yr Awdurdod Rheoliadau Adeiladu.
Fel pob un o’n prosiectau, dechreuodd y prosiect penodol hwn gyda chyfarfod â’r cleient, yn trafod ei ofynion penodol, yn dod i ddeall pwysigrwydd hanesyddol yr adeilad ac effaith posibl y cynnig ar dreftadaeth. Cytunwyd ar ddewisiadau deunyddiau a mathau o strwythurau i’w defnyddio yn ogystal ag arloesedd y dulliau wrth ymgymryd â’r gwaith.
Yn ogystal â chwblhau’r pecynnau cyfrifo dyluniad a thystysgrifau dylunio, cynorthwyodd Cadarn yn ystod y gwaith adeiladu wrth fanylu ar strategaeth adeiladu a dylunio gwaith dros dro i leihau’r effaith ar y strwythur hanesyddol. Mae’r estyniad newydd yn cyd-fynd yn berffaith â chymeriad hanesyddol yr adeilad gwreiddiol.
Os gallwn ni cynorthwyo eich prosiect, cysylltwch â ni ag y byddem yn fwy na pharod i helpu.