Mae Cadarn wedi helpu i wella bywydau preswylwyr o fewn datblygiad preswyl a oedd wedi gweld dyddiau gwell, wrth hefyd leihau’r risg o lifogydd
BLWYDDYN 2021
CLEIENT Adra (tai)
Mae Cadarn wedi helpu i wella bywydau preswylwyr o fewn datblygiad preswyl a oedd wedi gweld dyddiau gwell, wrth hefyd leihau’r risg o lifogydd sydd wedi digwydd yn y gorffennol, drwy ôl-osod dulliau draenio trefol, cynaliadwy mewn datblygiad presennol. Cafodd y dyluniadau eu modelu mewn amgylchedd 3D i helpu’r preswylwyr i weld y dyluniad a rhannu eu barn arno cyn i’r gwaith ddechrau.
Gan ddefnyddio meddalwedd ddylunio, roeddem yn medru modelu’r safle mewn modd hydrolig i arddangos y gostyngiad yn y risg o lifogydd yn yr eiddo o ganlyniad i’r gwaith, yn ogystal â helpu’r preswylwyr i weld y gwelliannau a fydd yn cael eu gwneud drwy ddefnyddio meddalwedd modelu 3D.
Roedd y briff gwreiddiol yn cynnwys datrys y problemau llifogydd parhaus a oedd yn gysylltiedig â’r safle a rhoi nodweddion draenio trefol, cynaliadwy ar waith, a gwneud gwelliannau a fyddai o fudd i’r preswylwyr.
Cafodd sawl dyluniad sgematig ei lunio a’i gyflwyno i’r cleient a oedd yn cynnwys ardaloedd hardd, lleoedd parcio ychwanegol ar gyfer preswylwyr a nodweddion draenio trefol, cynaliadwy.
Bwriedir cynnal y prosiect yn y dyfodol agos iawn, a bydd yn helpu i gyflawni’r uchelgeisiau a nodwyd gan Lywodraeth Cymru yn Neddf Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru. Mae Cadarn wedi’i benodi i gaffael, rheoli a goruchwylio’r gwaith.
Os gallwn ni cynorthwyo eich prosiect, cysylltwch â ni ag y byddem yn fwy na pharod i helpu.